P-05-994 Caniatáu i adeiladau eglwysi ailagor – er enghraifft, ar gyfer addoli ar y cyd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Philip Cushen, ar ôl casglu cyfanswm o 416 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
I Gristnogion a phobl o gymunedau ffydd eraill, mae addoli ar y cyd yn rhan hanfodol o fywyd crefyddol, nid dim ond rhywbeth ychwanegol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r pandemig COVID-19 presennol yn amlwg yn
galw am gyfyngiadau eithriadol i ddiogelu iechyd unigolion ac
iechyd cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, mae iechyd
ysbrydol ac iechyd meddwl pobl grefyddol hefyd yn hynod bwysig, gan
arwain at sgil-effeithiau eang ar gymdeithas. Wrth drafod ailagor
lleoliadau ymarfer corff, lleoliadau adloniant ac ati, mae hefyd
angen rhoi sylw brys i ailagor adeiladau ar gyfer addoli ar y cyd,
er mwyn galluogi’r agwedd hanfodol hon ar fywyd i ailddechrau
ar gyfer pobl o ffydd grefyddol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Merthyr Tudful a Rhymni
· Dwyrain De Cymru